SL(6)439 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig fod wedi eu rhewi’n ddwfn pan fônt yn cael eu mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir (i dymheredd -18°C), a hynny hyd at 29 Ebrill 2024.

Mae “paratoadau cig” yn fwydydd wedi'u gwneud o gig ffres heb newid strwythur y ffibr cyhyrau sy'n nodweddu cig ffres. Mae'n bosibl bod bwydydd eraill, halen a phupur ac ychwanegion wedi'u hychwanegu atynt.

Mae'r ataliad dros dro eisoes wedi'i estyn sawl gwaith, ac yn awr mae'n cael ei estyn eto fel rhan o ddull o ymdrin â rheolaethau ar y ffin sy’n esblygu ar gyfer Prydain Fawr gyfan. Heb yr estyniad pellach hwn, byddai’n anghyfreithlon mewnforio paratoadau cig oer ar ôl 31 Ionawr 2024.

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn nodi:

Mae’r ataliad dros dro ar y gwaharddiad yn fesur cymesur, gan fod y risg i fioddiogelwch y mae'r nwyddau hyn o'r gwledydd hynny'n ei pheri yn isel, wrth i'r polisi ar gyfer y tymor hir gael ei ddatblygu. Mae'r nwyddau hyn yn cael eu mewnforio ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw bryderon i iechyd y cyhoedd mewn perthynas â'r cynhyrchion hyn, gan fod y DU a'r UE yn masnachu'r nwyddau hyn yn rhydd o fewn Marchnad Sengl yr UE.

 

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y cyd-destun a ganlyn i’r Rheoliadau hyn, fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol:

Ers diwedd y cyfnod gweithredu ar ôl i'r DU adael yr UE, mae busnesau ac awdurdodau cymwys wedi gorfod bodloni gofynion helaeth gan yr UE a'r DU pan fyddant yn symud nwyddau o dan y berthynas fasnachu newydd â'r UE. Mae llawer o fusnesau ac awdurdodau cymwys yn wynebu heriau a diffyg adnoddau wrth baratoi ar gyfer newidiadau o'r fath o fewn cyfnod byr, wrth ymdrin â'r ymateb i bandemig COVID-19.

 

Heb yr offeryn hwn, byddai ceisio cydymffurfio â'r gofyniad i rewi'n ddwfn, a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 31 Ionawr 2024, yn creu cryn berygl o fewn y sector, a tharfu ar y gadwyn cyflenwi bwyd i Brydain Fawr.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

9 Ionawr 2024